COFNODION

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar

Dydd Iau 26 Hydref 2023

12.00 – 13.30

Noddwyd y cyfarfod gan Mark Isherwood AS

Yn bresennol:

Mark Isherwood AS (Cadeirydd)

Rob Wilks (Ysgrifennydd)

Alison Bryan

Hazel Badjie (Y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, neu’r NDCS)

John Day (Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr)

Julia Terry (Prifysgol Abertawe)

Margaret Buchanan-Geddes

Mark Davies

Michelle Fowler (Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre)

Polly Winn (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw, neu’r RNID)

Rebecca Mansell (Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain, neu’r BDA)

Samantha Davies

Sarah Thomas (Y Ganolfan Arwyddo-Golwg-Sain, neu COS)

Stuart Parkinson

Tom Lichy (BDA)

Tony Evans

Ymddiheuriadau:

Mike Hedges AS

Heledd Fychan AS

Cath Booth (Cyngor Cymru i Bobl Fyddar)

Cathie Robins-Talbot

Dawn Sommerlad (COS)

Hannah Winters (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro)

Martin Griffiths (BDA)

Nigel Williams (Grŵp Cymorth Mewnblaniad yn y Cochlea De Cymru)

Robin Ash (BDA)

Dehonglwyr BSL/Saesneg:

James Bailey (SignLive)

Christian Leyland (SignLive)

Adroddwr llais i destun:

Capsiynau byw


 

Cyfres Siaradwyr #1

Sarah Thomas – Rheolwr-gyfarwyddwr, y Ganolfan Arwyddo Golwg Sain (COS)

 

Gweler y sleidiau atodedig.

 

Yn ystod y sesiwn holi ac ateb a gynhaliwyd yn sgil y cyflwyniad, gofynnodd Margaret Buchanan-Geddes a oedd terfyn oedran ynghlwm wrth wasanaethau COS. Dywedodd ei bod yn teimlo y byddai rhai aelodau o sefydliad Blind Veterans yn gwerthfawrogi’r gwasanaethau dan sylw.  Dywedodd hefyd ei bod yn gobeithio y gallai gwasanaethau fel y rhain gael eu lledaenu i weddill Cymru.  Cadarnhaodd Ms Thomas nad oedd terfyn oedran ynghlwm wrth wasanaethau COS.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd gan Ms Thomas unrhyw awgrymiadau ynghylch sut i sicrhau cyllid yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.  Dywedodd Ms Thomas nad oedd ganddi fawr ddim profiad o ysgrifennu cynigion cyn cymryd yr awenau fel rheolwr-gyfarwyddwr COS.  Fodd bynnag, drwy ddefnyddio gwasanaethau ysgrifennwr proffesiynol yn y maes, mae hi wedi gallu datblygu'r sgiliau hyn.  Mae’r hinsawdd sydd ohoni yn un heriol iawn, yn enwedig o gofio bod cyllidebau awdurdodau lleol yn cael eu torri.  Mae partneriaethau yn bwysig iawn.  Yn aml, rhaid cyflwyno 4 neu 5 cynnig am yr un peth yn y gobaith o sicrhau cyllid.

 

Cadarnhaodd Mark Davies ei fod yn gwneud llawer o waith gwirfoddol ar ran COS, a'i fod yn gwerthfawrogi'r cyfleoedd a ddarperir.

Cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd y grŵp ar 3 Tachwedd 2022 a 23 Mehefin 2023

Cafwyd cynnig i gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd 2022. Gwnaed y cynnig i gymeradwyo’r cofnodion gan Alison Bryan, a chafodd y cynnig hwnnw ei eilio gan Rob Wilks (nad oedd yn gweithredu fel Ysgrifennydd y grŵp ar y pryd). Ni chafwyd gwrthwynebiad.

Cafwyd cynnig i gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2023.  Gwnaed y cynnig i gymeradwyo’r cofnodion gan Tony Evans, a chafodd y cynnig ei eilio gan Alison Bryan.  Ni chafwyd gwrthwynebiad.

Cam i’w gymryd: Yr Ysgrifennydd i anfon y cofnodion at y Swyddfa Gyflwyno.

Materion sy’n codi

Cadarnhaodd y Cadeirydd a'r Ysgrifennydd fod y Swyddfa Gyflwyno wedi cael gwybod am benodiad Rob Wilks fel Ysgrifennydd y grŵp.  Mae'r Ysgrifennydd hefyd wedi cyflwyno'r Adroddiad Blynyddol a'r Datganiad Ariannol.

Roedd y camau gweithredu canlynol, a ddeilliodd o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2023, yn weddill:

·         Yr Ysgrifennydd i ysgrifennu llythyr ar ran y grŵp at Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, mewn perthynas â’r ffaith bod pobl ddall a byddar yng Nghymru yn anweledig.

·         Yr Ysgrifennydd i drefnu siaradwyr ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol, a threfnu cyfarfodydd gyda digon o rybudd i annog Aelodau o’r Senedd i fod yn bresennol.

·         Yr Ysgrifennydd i ysgrifennu llythyr at bwyllgor addysg y Senedd, CBAC a sefydliad Cymwysterau Cymru mewn perthynas â’r pryderon a godwyd ynghylch y cymhwyster TGAU mewn Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

·         Yr Ysgrifennydd i godi pryderon y grŵp â Llywodraeth Cymru ynghylch y broses o gomisiynu cyfieithwyr nad ydynt wedi’u cymhwyso i wneud gwaith ar ymgynghoriadau.

Bydd yr Ysgrifennydd yn gweithredu ar y materion hyn dros yr wythnosau nesaf.

Gofynnodd Polly Winn i'r Ysgrifennydd a oedd ganddo gyswllt ar gyfer Cymwysterau Cymru.  Bydd yr Ysgrifennydd yn rhannu’r wybodaeth hon â Polly Winn pan fydd ar gael.

Camau i’w cymryd:

Yr Ysgrifennydd i gwblhau'r holl gamau gweithredu sy'n weddill.

Yr Ysgrifennydd i drosglwyddo manylion cyswllt ar gyfer Cymwysterau Cymru i Ms Winn ar ôl iddynt ddod i law.

Deiseb yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth ar gyfer y gweithlu o ran Athrawon Plant Byddar

Hazel Badjie, Pennaeth Polisi a Dylanwad yng Nghymru, NDCS

Gweler y sleidiau atodedig.

 

Mewn cwestiwn i’r Gweinidog Addysg yn y Senedd ar 3 Mai 2023, cododd y Cadeirydd y ffaith bod prinder athrawon plant byddar yng Nghymru. Mewn ymateb, cyfeiriodd y Gweinidog at y strategaeth ar gyfer y gweithlu, a’r ffaith bod y diwygiadau ym maes anghenion dysgu ychwanegol, a’r cod cysylltiedig, yn cynnwys cyfeiriad penodol at athrawon plant byddar.  Mae angen i awdurdodau lleol ac ysgolion ymgynghori er mwyn sicrhau bod modd diwallu anghenion dysgu myfyrwyr byddar, a chafwyd ymrwymiad ariannol mewn perthynas â’r llwybr ariannu ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig.  Awgrymodd y Cadeirydd fod y grŵp yn ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf.

 

Cafodd y grŵp ei atgoffa’n benodol gan Alison Bryan fod angen mwy o athrawon byddar i ddysgu plant byddar.  Ar hyn o bryd, nid yw'r llwybr hwn yn cael ei feithrin, ac felly nid yw'r gweithlu'n amrywiol nac yn gynrychioliadol o'r bobl y mae'n eu gwasanaethu.

 

Gwnaeth Stuart Parkinson atgoffa Ms Badjie ei bod yn bwysig cofio nad yw addysg ar gyfer pobl fyddar yn ymwneud â phlant bach yn unig, a’i bod hefyd yn ymwneud â gwasanaethau ymylol fel clybiau ieuenctid ac ati.  Gwnaeth Mr Parkinson ailadrodd y ffaith bod plant byddar ar ei hôl hi ar bob cam o'u haddysg ac na ddylai hynny ddigwydd.  Yn y gorffennol, roedd cwrs ar gyfer athrawon plant byddar yn cael ei gynnal ar gampws Prifysgol De Cymru yng Nghasnewydd, ond mae’r cwrs hwnnw bellach wedi dod i ben.  Roedd Ms Badjie yn cytuno â’r sylwadau hynny, gan nodi bod gofyn i fyfyrwyr ar y cwrs hwnnw wneud eu profiad gwaith yn Lloegr. 

 

Gan ddiosg ei het Ysgrifennydd am foment, cadarnhaodd Rob Wilks ei fod wedi gwneud gwaith ymchwil ynghylch addysg ar gyfer pobl fyddar gyda Rachel O'Neill ym Mhrifysgol Caeredin. Nododd mai un o'u hargymhellion ar gyfer Cymru oedd sefydlu cwrs ar gyfer athrawon plant byddar yma.  Y llynedd, cytunodd y Grŵp i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i ofyn am ymateb i’r adroddiad, ond nid oedd Mr Wilks yn siŵr beth oedd canlyniad y broses honno.  Bydd Dr Wilks yn anfon e-bost at Ms Badjie parthed trefnu cyfarfod i drafod ymhellach y cynnydd a wnaed mewn perthynas â sefydlu Partneriaeth BSL ar gyfer holl brifysgolion Cymru. 

 

Cadarnhaodd John Day ei fod yn cefnogi’r ddeiseb, a hynny ar ran gwasanaethau awdioleg yng Nghymru. Yn ogystal, ailadroddodd pa mor bwysig yw athrawon plant byddar i awdiolegwyr.  Dywedodd ei fod yn hapus i gefnogi’r ddeiseb, ynghyd ag ymdrechion i gynyddu buddsoddiad yn y proffesiwn hwn.

 

Anogodd y Cadeirydd bawb i lofnodi a rhannu’r ddeiseb.  Awgrymodd hefyd y dylai'r grŵp ysgrifennu at y Pwyllgor Deisebau i nodi eu cefnogaeth i'r ddeiseb.

 

Camau i’w cymryd:

·         Yr Ysgrifennydd i ddrafftio llythyr at y Gweinidog Addysg ar ran y Grŵp, yn codi’r materion uchod ac yn dilyn i fyny ar gwestiwn y Cadeirydd yn y Senedd ar 3 Mai 2023, a’r ymateb i adroddiad Dr Wilks.

·         Yr Aelodau i lofnodi’r ddeiseb hon: https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/245870.

·         Yr Ysgrifennydd i ysgrifennu at y Pwyllgor Deisebau i gefnogi’r ddeiseb ar ran y grŵp.


 

Diweddariad gan Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain (y BDA)

Tom Lichy, Arweinydd Polisi ac Ymchwil y BDA

 

Cyflwynodd Tom Lichy ei hun, gan ymddiheuro am fod yn Sais ar diriogaeth Cymru.  Cadarnhaodd y Cadeirydd fod croeso i bawb yng Nghymru.  Mr Lichy yw arweinydd polisi ac ymchwil y BDA, ac roedd yn bresennol yn y cyfarfod yn sgil absenoldeb Martin Griffiths. 

 

Roedd y BDA wedi trefnu cyfarfod â Suki Westcott o Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2023, ond ni chafodd y cyfarfod hwnnw ei gynnal. Serch hynny, roedd cyfarfod wedi’i drefnu ar gyfer 22 Tachwedd 2023, gyda’r nod o gynnal trafodaeth ar yr archwiliad BSL yng Nghymru.  Dealltwriaeth y BDA yw bod yr adroddiad ar yr archwiliad BSL wedi cael ei dderbyn mewn egwyddor, ond bod angen dod o hyd i gyllid ar gyfer ei weithredu.

 

Gofynnodd Mr Lichy i'r grŵp a fyddai modd darparu diweddariad ynghylch archwiliad y BDA o Lywodraeth Cymru a’r cynnydd sy’n cael ei wneud tuag at Ddeddf BSL yng Nghymru.

 

Yn ystod ymweliadau a gynhaliwyd yn ddiweddar â chlybiau byddar yng Nghymru, mynegwyd rhwystredigaeth gynyddol ynghylch y ffaith nad oes unrhyw Ddeddf sy’n cwmpasu gwasanaethau datganoledig yng Nghymru fel y GIG, gofal cymdeithasol, addysg, cymorth cyflogaeth, y celfyddydau/hamdden a thrafnidiaeth.

 

Yn ôl yr adborth a gafwyd gan y gymuned fyddar yng Nghymru, mae awydd am fwy o arweinyddiaeth gan bobl fyddar yng Nghymru yn y broses o ddarparu gwasanaethau BSL. Mae awydd hefyd am weld y gwasanaethau hynny yn cael eu darparu gan arwyddwyr BSL sy’n fyddar eu hunain, ac am gefnogaeth i alluogi pobl fyddar i arwain gweithgarwch ym meysydd cynllunio proffesiynol a phennu cyllidebau mewn perthynas â materion BSL.  Yn ôl yr adborth, mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru yn defnyddio arian sydd wedi'i glustnodi ar gyfer gwasanaethau BSL i dalu pobl nad ydynt yn arwyddwyr i ddylunio a darparu'r gwasanaethau BSL hyn.  Mae'r BDA am weld arwyddwyr BSL sy’n fyddar ac sydd o Gymru yn dylunio, yn rheoli, yn darparu ac yn asesu’r holl wasanaethau BSL sydd ar gael yng Nghymru, ac mae’r sefydliad yn hapus i gefnogi’r gymuned fyddar yng Nghymru i wneud hynny.

 

Yn ogystal, gofynnodd Mr Lichy am ddiweddariad ar y Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Darparu Gwybodaeth Hygyrch i Bobl â Nam ar eu Synhwyrau a Chyfathrebu â Hwy, gan fod y BDA yn deall bod y safonau hyn yn cael eu diweddaru – ond eu bod hefyd yn gysylltiedig â’r broses o lansio’r ap newydd ar gyfer y GIG yng Nghymru. Mae'r BDA yn pryderu na fydd yr ap yn hwylus i’w defnyddio gan bobl fyddar.

 

Gofynnodd Mr Lichy hefyd a fyddai modd cysylltu materion BSL â chynllun y Gymraeg ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n sefydlu'r Gymraeg fel angen iechyd.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod wedi codi’r angen am Ddeddf BSL yng Nghymru ddwywaith yn y Senedd, a’i fod wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer Deddf o’r fath.  Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi cyfeirio’n gyson at adroddiad archwilio’r BDA. Ers i’r adroddiad gael ei gyhoeddi, mae’r Llywodraeth wedi dweud ei bod yn parhau i weithio gyda’r BDA a’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl, ond ni chafwyd adroddiad ynghylch unrhyw gynnydd a wnaed.  Yn y cyfamser, mae'r Cadeirydd yn awyddus i gyflwyno Bil BSL fel Bil Aelod, ond mae angen i’w enw gael ei dynnu yn y balot cyn y gall wneud hynny.

 

Cadarnhaodd Polly Winn fod cydweithwyr yn yr RNID yn cymryd rhan yn y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, a dywedodd ei bod yn ymwybodol bod nifer o is-grwpiau wedi bod yn gweithio ar greu cynlluniau gweithredu sy’n gysylltiedig â themâu penodol, e.e. plant a phobl ifanc. Mae’r rhan fwyaf o’u gwaith bellach ar fin dod i ben.  Bydd pob cynllun gweithredu yn dod yn rhan o Gynllun Gweithredu Anabledd drafft, a fydd yn destun ymgynghoriad y disgwylir iddo gael ei gynnal yn y flwyddyn newydd.  Dywedodd Ms Winn ei bod yn hapus i gasglu rhagor o wybodaeth ac adrodd yn ôl i'r grŵp.

Cam i’w gymryd: Ms Winn i gasglu rhagor o wybodaeth am waith y Tasglu Hawliau Pobl Anabl ac adrodd yn ôl i'r Grŵp.

 

Dywedodd Ms Bryan ei bod yn pryderu am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Ddeddf BSL, o ystyried y ffaith ei bod wedi penodi person nad oes ganddo nam ar ei glyw yn ddiweddar i rôl uwch reoli sy'n canolbwyntio ar anabledd ac Iaith Arwyddion Prydain, yn hytrach na pherson byddar a wnaeth gais am yr un rôl.

Unrhyw fater arall

 

Soniodd Stuart Parkinson am y fenter ‘Dinas sy’n Gyfeillgar i Blant’ yng Nghaerdydd. Dywedodd wrth y grŵp fod tîm digidol Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd a Chlwb Ieuenctid Byddar Cŵl Caerdydd wedi ennill gwobr am eu fideo ‘Y Rhwystrau’ (‘The Obstacles’).  Bydd yn mynd i’r seremoni wobrwyo ddydd Gwener.

 

Gan nad oedd unrhyw fater arall, daeth y cyfarfod i ben.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

 

·         Dydd Iau 4 Ionawr, 18.00-19.30

·         Dydd Iau 25 Ebrill, 12.00-13.30

·         Dydd Gwener 12 Gorffennaf, 12.30-13.30